Partneriaeth Dysgu Proffesiynol Yr Athrofa

Yr Athrofa Professional Learning Partnership

APLP Logo

Partneriaeth Dysgu Proffesiynol Yr Athrofa

Croeso cynnes i wefan PDPA.

Dylan Jones - Deon / Dean

Croeso gan y Deon

Helo a chroeso i’r Athrofa. Fy enw i yw Dylan Jones a chyn ymuno â’r Athrofa ym mis Ionawr 2016, bûm yn gweithio mewn ysgolion am bron i 30 blynedd gan gynnwys oddeutu 20 blynedd fel Pennaeth ysgol ar dair ysgol o fath gwahanol.

Gwn sut beth ydyw i fod yn athro yn gwasanaethu ar reng flaen addysg ac rwyf wedi profi’n uniongyrchol yr heriau amrywiol mae ysgolion yn eu hwynebu. Ond rwyf hefyd wedi tystio i angerdd ac ymroddiad diysgog staff ysgolion, sy’n gwneud cyfraniad pellgyrhaeddol i fywydau bob dydd plant.

Hwy yw’r asiantau newid ac, ynghyd â’n partneriaid proffesiynol, mae’n uchelgais i mi fod o gymorth pwrpasol ac ymarferol wrth ddatgloi potensial enfawr ein system addysg. Mae tîm profiadol ac ymroddedig yr Athrofa yn barod i chwarae ei ran wrth i ni ddatblygu addysg Cymru ac edrychwn ymlaen at weithio gyda chi i gyflawni ein nodau cyffredin. Mae pobl ifanc Cymru yn haeddu’r addysg orau ac mae athrawon Cymru yn haeddu’r gefnogaeth orau posib.

Wrth weddnewid addysg, gallwn drawsnewid bywydau.

Diolch, Dylan.