Ar ddydd Mercher, 12 Chwefror 2014, lansiodd canolfan gyhoeddi Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Canolfan Peniarth, cyfres o lyfrau newydd i blant yn Ysgol Llys Hywel, Hendygwyn-ar-daf, lle mae un o’r awduron yn dysgu.
Mae cyfres Tybed pam?, sydd ar gael yn y Gymraeg ac yn Saesneg, yn cynnwyschwe llyfr stori ar y thema addysg grefyddol ynghyd â llawlyfr ymarferwyr a phecyn o weithgareddau cysylltiedig. Yn rhan o’r gyfres, mae’r llyfrauHoli Hai,Fi, dy frawd, yw e!,Planed arbennig Harri,Gwneud y pethau bychain,Y seremoni enwi, aStori Reuben.
Awdurwyd y gyfres gan Dr. Geraint Davies a Dr. Sioned Hughes sy’n ddarlithwyr ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, CatherynClement, Prifathrawes sydd bellach wedi ymddeol a Beryl Bowen sy’n athrawes yn Ysgol Llys Hywel, Hendygwyn.
Meddai Mr Gwydion Wynne, Cyfarwyddwr Canolfan Peniarth, “Mae prinder mewn llyfrau ac adnoddau dwyieithog o fewn y pwnc addysg grefyddol yn y sector addysg gynradd, ac rydym yn falch iawn o fod wedi derbyn cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru er mwyn ein galluogi i gydweithio gydag awduron i gyhoeddi’r gyfres arbennig hon. Mae nifer yr archebion yr ydym eisoes wedi eu derbyn ar gyfer y gyfres yn brawf o’r galw am adnodd o’r fathâ€.
Mae’r gyfres yn adnodd sy’n cefnogi gofynion y Fframwaith Cenedlaethol Enghreifftiol ar gyfer Addysg Grefyddol i ddisgyblion 3 i 19 oed yng Nghymru a Fframwaith y Cyfnod Sylfaen gyda phob un o’r straeon yn canolbwyntio ar gwestiwn sylfaenol a gaiff ei archwilio yng nghyd-destun bywyd rhywun crefyddol, gwyl neu gyd-destun crefyddol arall. Mae’r gweithgareddau yn rhoi cyfleoedd i’r dysgwyr ddatblygu syniadau, teimladau a safbwyntiau gyda dychymyg, creadigedd a sensitifrwydd a fydd yn eu helpu i fynegi barn am y byd, eu gobeithion, a’u breuddwydion.
Mae’r llyfrau’n cael eu gwerthu arwahan am £5.99 yr un, neu fel pecyn cyflawn am £30, ac ar gael yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Mae llyfryn ymarferwyr yn dod gyda phob archeb am becyn cyflawn, a gellir archebu copiau yn uniongyrchol osiop y Ganolfan ar y we.
Er mwyn ymuno yn nathliadau Diwrnod y Llyfr ar ddydd Iau 6 Mawrth, bydd modd i blant ac ysgolion lawrlwytho gweithgareddau ymarferol yn ymwneud âstraeon a chymeriadau ofewn llyfrau ac adnoddau y Ganolfan.Anfonwch lun o’ch disgyblion atom naill ai’n darllen un o lyfrau’r Ganolfan, neu’n lliwio un o gymeriadau’r llyfrau, ac fe anfonwn dystysgrif atbawb igydnabod eu cyfraniad a’u hymwneud yn y dathliadau! Bydd y gweithgareddau ar gael i'w lawrlwytho o'n gwefan rhwng y 3ydd a'r 7fed o Fawrth. Dilynwch y ddolen ar dudalen gartref ein gwefan am ragor o fanylion.
Yn ychwanegol at hyn, bydd gostyngiad o 10% ar bob archeb a wneir ar ein siop ar-lein am ddiwrnod cyfanar 6 Mawrth 2014. Defnyddiwch y cod 'diwrnodllyfr2014'.
"