Yn dilyn derbyn nawdd o du Llywodraeth Cymru, mae Canolfan Peniarth wedi cyhoeddi adnodd rhyngweithiol unigryw ar gyfer Cyfnod Allweddol 2 sy’n dod a daearyddiaeth a llenyddiaeth ynghyd drwy edrych ar y cysylltiadau rhwng chwedlau a’r tirlun naturiol yng Nghymru.
Mae’r adnodd Chwedlau Cymru, yn adnodd dwyieithog ac sy’n canolbwyntio ar chwe chwedl adnabyddus iawn, gan gynnwys Cantre’r Gwaelod, Santes Dwynwen, Llyn y Fan Fach, Brenin Arthur, Melangell a Beddgelert. Yn ogystal ag adrodd hanes y chwedlau, mae’r adnodd yn cynnwys gweithgareddau rhyngweithiol i gydfynd â phob chwedl ac sy’n ymateb yn uniongyrchol i ofynion y cwricwlwm cenedlaethol ar gyfer Daearyddiaeth CA2.
Dr Sioned Vaughan Hughes o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant fu’n cydlynu’r gwaith ar gyfer y prosiect, a dywedodd, “Wrth ddarllen am chwedlau yn gyffredinol, mae modd i rywun ddysgu llawer am eu lleoliad hefyd, er enghraifft enwau mynyddoedd, afonydd a llynoedd. Mae’r adnodd Chwedlau Cymru wedi ei ddatblygu ar ffurf gwefan ddeniadol a byrlymus a fydd yn helpu dysgwyr nid yn unig i ddysgu am hanes y chwedlau, ond i ddysgu am yr hyn y mae’r chwedlau’n ei ddweud am Gymru â’i phobl yn ogystal. Darperi cyfleoedd i ddatblygu sgiliau llythrennedd y dysgwyr law yn llaw â'u sgiliau daearyddolâ€.
Dywedodd Mr Gwydion Wynne, Cyfarwyddwr y Ganolfan, “Mae hi wedi bod yn braf gweithio ar y prosiect hwn gan ei fod yn wahanol iawn yn yr ystyr ei fod yn dod a rhai o brif chwedlau llenyddiaeth Gymraeg ag elfennau penodol o’r maes daearyddiaeth at ei gilydd. Mae’r wefan sydd wedi ei dylunio ar gyfer yr adnodd yn cynnwys amryw o nodweddion ychwanegol a fydd yn gymorth i athrawon gyda’u gwersi.â€
Cliciwch yma am ragor o fanylion ac i bori drwy’r adnodd.
"Yn yr wythnos ddiwethaf, clywodd y Ganolfan ei bod wedi llwyddo i ennill pum cais tendr o du Llywodraeth Cymru, i ddatblygu rhagor o lyfrau ac adnoddau i’r sector addysg dros y ddwy flynedd nesaf.
Ymysg y tendrau llwyddiannus mae cyhoeddi drama ar gyfer myfyrwyr TGAU, ynghyd â chyhoeddi pedair nofel wreiddiol ar gyfer Cyfnod Allweddol 2; dau brosiect cyffrous a fydd yn gweld y Ganolfan yn cydweithio gydag awduron a dramodwyr profiadol megis Manon Steffan (Blasu, Fel Aderyn, Y Lolfa) , Gwenno Mair Davies (Tudur Budr, Gwasg Gomer), Hywel Griffiths (Dirgelwch y Bont, Gwasg Gomer) i enwi ond rhai.
Ymysg y tendrau llwyddiannus eraill mae’r prosiectau Y Ditectif Geiriau a fydd yn cynhyrchu cyfres o bedwar llyfr darllen a deall a gweithgareddau ar-lein i ddysgwyr Cyfnod Allweddol 2; Cardiau Camau Llwyddiant a fydd yn cynhyrchu set o gardiau y gellir eu defnyddio mewn sesiynau trafod yn yr ysgol i godi safon ysgrifennu’r dysgwyr; Ein Byd, sef adnodd ar-lein a fydd yn seiliedig ar sgiliau ar gyfer dysgwyr ac ysgolion er mwyn cynorthwyo gyda’r gwaith o ddysgu am ‘Ein Byd’ mewn daearyddiaeth.
Mae’r Ganolfan eisoes yn cael ei hystyried yn un o brif gyhoeddwyr adnoddau addysg yng Nghymru, ac meddai Gwydion Wynne, Cyfarwyddwr y Ganolfan, “Rydym yn ddiolchgar iawn i’r Llywodraeth am genfogi’r pum cais hwn, ac rydym yn edrych ymlaen i gydweithio â swyddogion yr Adran Addysg a Sgiliau ynghyd ag awduron profiadol unwaith eto, i greu a datblygu adnoddau blaengar o’r radd flaenaf i’r sector addysg yng Nghymru. Mae hwn yn gyfnod cyffrous iawn i’r Ganolfan, ac o ystyried datblygiadau sylweddol eraill o fewn ein gwasanaethau hyfforddiant iaith mewn addysg, ynghyd â’r newyddion fod S4C wedi penderfynu symud ei phencadlys o Gaerdydd i gampws y Brifysgol yng Nghaerfyrddin, mae’r cyfnod diweddar hwn yn garreg filltir hanesyddol yn natblygiad y Ganolfan ers ei sefydlu yn 2009â€.
Am fwy o fanylion am adnoddau a gwasanaethau’r Ganolfan, dilynwch y dolenni perthnasol ar dudalen gartref y wefan.
"